Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad: Ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2024

Amser: 09.00 - 09.18
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

 

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau Economaidd Ein dyfodol economaidd (30 45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau Trafnidiaeth Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando, partneriaeth, gwneud newid (30 45 munud)

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Llafur a Cheidwadol ar nifer o bwyllgorau, i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Felly, cytunwyd ar y newid ychwanegol a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

 

Gofynnodd Heledd Fychan i’r Prif Weinidog wneud datganiad llafar i egluro’r sefyllfa mewn perthynas â rhoddion i’w ymgyrch arweinyddiaeth a benthyciadau a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Cydnabu y Trefnydd y cais. 

 

 

Dydd Mercher

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:

 

·         Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud)

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd hi’n cyhoeddi canlyniad y balot diweddaraf ar gyfer Bil Aelod ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.

 

Gofynnodd Heledd Fychan pam fod y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar berfformiad Dŵr Cymru wedi’i hamserlennu am 30 munud, yn lle’r 60 munud arferol. Cadarnhaodd y Llywydd fod hyn ar gais y Pwyllgor ond y byddai hi’n ystyried ymestyn y ddadl os bydd nifer fawr o geisiadau i siarad.

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm

 

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

 

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion cynnig 2

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 munud)

·         Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (5 munud)

·         Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)

 

Holodd Heledd Fychan a oedd yn fwriad gan y Llywodraeth i ychwanegu busnes pellach ar gyfer yr wythnosau i ddod. Dywedodd y Trefnydd mai ei bwriad yw rhoi rhagor o fanylion yn yr amserlen yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Darren Millar fod yr amseriad rhagosodedig ar gyfer datganiadau’r Llywodraeth yn cael ei ddychwelyd i 45 munud. Nododd y Trefnydd y cais a chytunodd i’r newid a ganlyn ar gyfer 7 Mai:

 

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 45 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

O ganlyniad i’r ffaith nad oedd unrhyw gynigion arfaethedig wedi’u cyflwyno ar gyfer Dadl yr Aelod a drefnwyd ar gyfer 8 Mai, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y Tair Wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 1 Mai 2024 -

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024 –

 

 

Trefnwyd yr eitemau a ganlyn:

Dydd Mercher 15 Mai 2024 –

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ddiwygiedig ar gyfer Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil, ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

</AI8>

<AI9>

5       Gwaith Gweithdrefnol

</AI9>

<AI10>

5.1   Meini prawf gwneud penderfyniadau ar gyflymu’r amserlenni ar gyfer Biliau

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes feini prawf arfaethedig i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ar yr amserlenni ar gyfer Biliau pan ofynnir am gyfnod craffu cyflym.

Gofynnodd Darren Millar am gael cynnwys ystyriaeth ychwanegol mewn perthynas ag a oedd y Bil dan sylw yn cynnwys darpariaethau a allai fod yn ddadleuol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried yr ychwanegiad arfaethedig drwy e-bost ac, yn amodol ar ei gytuno, i fabwysiadu’r meini prawf i’w defnyddio yn y dyfodol pan fyddai’n cael ceisiadau i gytuno ar amserlen gyflym ar gyfer craffu ar Fil.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>